A oes gobaith, A oes pwrpas
I godi'n fore ac anadlu mas
Ymlaen, ymlaen ar yr un hen drywydd
Sy'n sathru ar ein ysbryd
Ydyn ni'n gwrando ar ein gilydd
Oes 'da ni amser, mae'n gywilydd
Ein bod ni'n perthyn i siwt annobaith
Angen cymuned cynhwysol
Rhaid cario 'mlaen
Er gwaetha'r cam, ie
Yn ddiysfa, yn ddifater
Rhaid cuddio'r poen
Tu ôl i'r gwên
Tu ôl i'r mwgwd
Beth petawn ni'n dial ar y drefn
A chawn gyfiawnder, dealltwriaeth
Rhaid i'r system ddeffro
I'r holl ddioddef, yr anhwylder
Ond mae'r datganiad yn berffaith glir
Ni fydd newid, gallwn weld y gwir
Does dim pwynt brwydro'n bellach
Am y newid chwildroadol, am ein rhyddid
Rhaid cario 'mlaen
Er gwaetha'r cam, ie
Yn ddiysfa, yn ddifater
Rhaid cuddio'r poen
Tu ôl i'r gwên
Tu ôl i'r mwgwd
Wohowohowho, Wohowohw
Wohwwohw, wohwwo
Mae'n nghalon ar dân
Dwy am losgi y'n fflam
Am fod yn rhydd
Dangos fy ngwir
Dim am guddio o hyd
Rhaid cario 'mlaen
Er gwaetha'r cam, ie
Yn ddiysfa, yn ddifater
Rhaid cuddio'r poen
Tu ôl i'r gwên
Tu ôl i'r mwgwd