Wrth i mi eistedd ar y graig yma
Clywaf sisial y môr yn galw
I fentro i'w ddyfnderoedd
I ymweld â'u holl ddirgeloedd
Ysaf am fywyd hudol
Dwy am ddilyn yr alaw persain, o ie
Hoffwn gael cynffon trawiadol
Siapus, sgleiniog a chwim,
I daro'r tonnau gwyn, o ie
Petawn i'n fôr forwyn
Fe wnaf ddianc yn awr
Heb oedi, heb fraw,
Rwyf am fynd at y dŵr
Cyn doriad gwawr
Rwyf am deimlo'r wefr
Cael fy nghyffwrdd gan yr hud
Gan y tynfa a ddaw
O'r pelydrau fan draw o'r arallfyd
Rwyf am gredu'n y wyrth o hyd
Dwy am blymio i'r dyfnderoedd
I weld trysorau, o ie
Saethaf trwy'r ogofeydd
Fel melltith gwyllt
I ddarganfod, o ie
Petawn i'n fôr forwyn
Fe wnaf ddianc yn awr
Heb oedi, heb fraw,
Rwyf am fynd at y dŵr
Cyn doriad gwawr.
Rwyf am deimlo'r wefr
Cael fy nghyffwrdd gan yr hud
Gan y tynfa a ddaw
O'r pelydrau fan draw o'r arallfyd
Rwyf am gredu'n y wyrth o hyd
O ohooho o
O ohooho o
O ohooho o
O ohooho o
Rwyf am gredu'n y wyrth o hyd